G39
Dyma oriel fwyaf blaengar Caerdydd sydd dan arweiniad artistiaid.
Mae’n fan ymgynnull i gymuned Caerdydd yn y celfyddydau gweledol a’u cynulleidfaoedd. Cynnaill raglen amrywiol sy’n cynnwys prif arddangosfeydd cyfoes, prosiectau arbrofol a digwyddiadau bychain. Mae hefyd yn lle hyfforddi i artistiaid lleol yn gynnar yn eu gyrfa.
I leoliadau heb docynnau, megis g39, mae dal data i gael gwell mewnwelediad i gynulleidfaoedd a’u hanghenion yn her barhaus. Felly archwiliant sut y gall technoleg ddigidol ymateb i’r gwahanol ffyrdd yr ymwna cynulleidfaoedd ym maes y celfyddydau gweledol â’r lleoliadau i ddal data’n greadigol i adeiladu perthynas gyda’r cynulleidfaoedd, meincnodi ar draws y sector a darparu cynllun gwydn i benderfyniadau strategol.
Dywed Chris Brown ragor am hyn:
Mae’r celfyddydau gweledol yn rhad ac am ddim wrth y fynedfa ac rydym yn ymroddedig i leihau’r rhwystrau sy’n bod rhag ymgysylltu â’r celfyddydau gweledol ym mhob ffordd bosibl. Ond mae honno’n broblem fawr inni. Rydym am fod yn wybodus a chraff am y bobl sy’n dewis ymgysylltu â ni. Gall sefydliadau eraill gasglu data drwy eu trafodion – tocynnau, gwasanaethau neu nwyddau – ond ni allwn gyplysu’r enwau yn ein cronfa ddata â’r bobl a ddaw drwy ein drysau. Ni wyddom faint o gysylltiad sydd rhwng ein hymdrechion cyfathrebol â’r nifer a ddaw atom. Mae arnom angen datrys y broblem honno.
Ond nid dal data yw’r holl ateb. Rhaid bod cyfnewid ystyrlon o werth wrth ei wraidd. Felly rydym am archwilio sut i ddefnyddio technoleg ddigidol i ddatblygu rhyngweithiad creadigol rhyngom ni a’n hymwelwyr. Drwy’r prosiect yr ymchwiliwn sut olwg fydd ar y cyfnewid hwnnw, a fyddai’n gynnwys ychwanegol i roi darn o waith mewn cyd-destun a darparu mewnwelediad ychwanegol, neu rywbeth sy’n archwilio ymatebion emosiynol pobl i celfweithiau penodol drwy ffurf ar brofiad digidol rhyngweithiol.
casglu data ar gyfer mewnwelediad gwell
A yw’r broses hon wedi mowldio neu newid eich perthynas gyda thechnoleg ddigidol?
Rwy’n dra ymwybodol o’r cynnydd a fu yn fy nealltwriaeth o dechnoleg ddigidol o ganlyniad i’r broses hon. Profiad dysgu gwych fu nodi’r partneriaid technegol ac islwytho eu gwybodaeth. Cawsom ystod eang o ddealltwriaeth am y dechnoleg sy’n bodoli i ddod o hyd i atebion priodol inni. Cawsom olwg hefyd ar fyd newydd o offer a thechnoleg i reoli’r berthynas â chwsmeriaid. Diddorol fu gweld sut y mae sefydliadau celfyddydol yn fyd-eang yn defnyddio’r dechnoleg mewn ffyrdd gwahanol.
Pa effaith y gallai’r prosiect hwn gael ar eich sefydliad?
ein sgiliau ac ehangwyd ein dealltwriaeth a hynny dim ond yn y cam cyntaf – nes y teimlwn y gallwn fynd i’r afael â’r mater, yn rhannol, hyd yn oed cyn mynd at y cam ymchwil a datblygiad. Ond, os yw’r prosiect yn dilyn ei gynllun, gallai’r effaith fod yn drawsnewidiol. Mae ganddo’r grym i’n symud i ffwrdd o ddibynnu ar dystiolaeth ystorïol a thuag at gael mewnwelediad clir i anghenion ein cynulleidfaoedd. Gall hyn ein cynorthwyo i ddatblygu cyfathrebu sy’n canolbwyntio ar bobl a rhaglennu’n strategol. Rhydd hyn oll dystiolaeth gadarn inni ar gyfer arianwyr a chefnogwyr, yn enwedig ein prosiectau datblygu cynulleidfaoedd.
Sut y mowldiodd neu y newidiodd y broses arloesol eich dealltwriaeth o’r broblem?
Aethom drwy nifer o gamau dysgu. Wrth bob cam o’r broses gellwch weld y dangosyddion o sut y newidiodd y prosiect; dan ddylanwad yr holl arbenigwyr a’r ymyriadau a’u gwybodaeth. Symudodd y prosiect yn llyfn. Pe tawn wedi canolbwyntio o’r cychwyn ar gael ateb yn unig, yn hytrach na bod yn agored i bosibiliadau, mae’n bosibl na chaem y cynnig gwell a gymerwn i’r cam ymchwil a datblygiad. Rydym wedi’n cyffroi am y dyfodol.