Digital Innovation Fund for the Arts in Wales Digital Innovation Fund for the Arts in Wales
  • Hafan
  • Am y gronfa
  • Prosiectau
  • Adroddiadau
    • Artis Community
    • Bombastic
    • Arts Alive
    • g39
    • Hijinx
    • Effaith gymdeithasol ac economaidd arloesi yn y celfyddydau
    • Mabwysiadu technoleg ddigidol yn sector y celfyddydau
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • Cymraeg
  • English
  • Chwilio
  • Rhannu
  • English

arts_wales_

  • 📲Briefing session for schools: 5 March! ✨Cynefin: A new and exciting opportunity for schools, which will empower a… https://t.co/oAQEpqw0Fo07:23 AM Feb 26
  • Great resources here! Thank you for sharing @theatriolo ✨ https://t.co/SlepRQfqIe10:56 AM Feb 24
  • 💬 Connect & Flourish Fund - The How and Why of Collaboration Agreements Join the virtual conversations and drop-in… https://t.co/eM6Z78ljsr05:30 AM Feb 24

Stwff i’ch mewnflwch

Close
Close
  • Hafan
  • Am y gronfa
  • Prosiectau
  • Adroddiadau
    • Artis Community
    • Bombastic
    • Arts Alive
    • g39
    • Hijinx
    • Effaith gymdeithasol ac economaidd arloesi yn y celfyddydau
    • Mabwysiadu technoleg ddigidol yn sector y celfyddydau
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • Cymraeg
  • English
  • Chwilio
  • Rhannu

Prosiectau Ymchwil a Datblygu newydd yng Nghymru

22 Ebrill 2016

Mae’r Gronfa Ymchwil a Datblygiad i Gelfyddydau Cymru ar waith ers rhyw wyth mis erbyn hyn. Ac yn y cyfnod hwnnw yr ymgysylltasom â rhagor na 100 sefydliad celfyddydol gan gymryd nifer ohonynt drwy’r broses o nodi her neu gyfle, adeiladu tîm pwrpasol a chynhyrchu syniad i ddatrys yr her neu fachu ar y cyfle.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi heddiw ein bod wedi ariannu pum prosiect ymchwil a datblygiad newydd yng Nghymru.

Daeth pob prosiect drwy’r Gronfa Ymchwil a Datblygiad i Gelfyddydau Cymru gan gyflawni camau canlynol y gronfa: Nodi’r Her ac Adeiladu Timau a Chynhyrchu Syniadau. Mae ganddynt brosiectau cadarn i gydweithio â phartneriaid technegol dros y 9-10 mis nesaf.

Yn gyntaf bydd Celfyddydau Byw Cymru yn archwilio sut y gallant rannu celfweithiau a pherfformiadau a grewyd mewn lleoedd gwledig a diarffordd â chynulleidfa ehangach. Fel yr esbonia Rebecca Spooner, Rheolwr Datblygu’r Celfyddydau:

Yma yn y Mynydd Du a Pharc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog, gweithiwn gyda llawer o artistiaid talentog sy’n creu gwaith safle-benodol mewn lleoedd diarffordd. Mae’r dirwedd – er ei bod yn ffynhonnell fawr o ysbrydoliaeth i’n hartistiaid – yn her ddifrifol inni. Mewn ardaloedd gwledig, mae’n anos cael cynulleidfa ehangach i weld y gwaith ac mae atebion ar-lein yn anos oherwydd diffyg band eang neu gysylltedd wi-fi. Felly archwiliwn y posibilrwydd o ddefnyddio band eang lloeren a thechnoleg arall i ddatrys y broblem. 

Y prosiect nesaf yw Cymuned Artis a weithia gyda Proper Design i archwilio sut y gall technoleg ddigidol chwarae rhan wrth feintioli effaith gymdeithasol y celfyddydau cymunedol a hwyluso penderfyniadau sefydliadol a datblygu posibiliadau o gael buddsoddiadau oddi wrth ystod ehangach o ffynonellau. Meddai Richie Turner, Cyfarwyddwr Prosiectau – Menter ac Arloesedd:

Mae dau rym y tu ôl i’r celfyddydau cymunedol. Yn gyntaf cynnig gweithgarwch ymgyfranogol artistig o safon. Yn ail bod y profiad yn trawsnewid bywyd pobl a chymunedau drwy roi llais i bobl neu ffordd o fynegi eu hunain yn wyneb anfantais. 

Ond y dystiolaeth sydd gennym am yr effaith drawsnewidiol yn gyffredinol yn ystorïol neu daw o astudiaethau achos ac nid yw bob tro’n adrodd yr holl stori. Mae arnom angen cynhyrchu data sy’n fwy gwydn a gwrthrychol i ddangos gwir effaith gymdeithasol ymyriadau’r celfyddydau cymunedol o ran iechyd a lles, addysg ac adfywio cymunedol

Y prosiect nesaf yw Bombastig sy’n gweithio gydag asiantaeth ddigidol, Moon, i ymchwilio a datblygu creu llwyfan digidol i gyfuno addysg a chelfyddyd fyw i gael ymgysylltiad amlach a mwy effeithiol ag ysgolion gan gynhyrchu model busnes newydd i’r cwmni fel yr esbonia Sean Tuan John, y Cyfarwyddwr Artistig:

Mae Bombastig yn cymysgu’r celfyddydau byw ag animeiddio a phrofiadau digidol rhyngweithiol ers deng mlynedd erbyn hyn. Ond mae perfformio a theithio gwaith sy’n seiliedig ar dechnoleg yn golygu gorbenion mawrion a gwir gyfyngiadau ar amlder y cyswllt â’n cynulleidfaoedd. Ar y funud dim ond unwaith y flwyddyn y gallwn gymryd gwaith allan i ysgolion sy’n ei wneud yn wir her o ran adeiladu perthynas gydag athrawon a phlant. Rydym am gynnal presenoldeb mwy cyson ar hyd y flwyddyn ysgol felly i wneud hyn mae arnom angen model gweithio mwy ysgafndroed ac ymatebol. 

Mae g39, oriel yng Nghaerdydd, yn gweithio gyda Mentrau Cyfryngol Golant. I leoliadau heb docynnau, megis g39, mae dal data i gael gwell mewnwelediad i gynulleidfaoedd a’u hanghenion yn her barhaus. Felly archwiliant sut y gall technoleg ddigidol ymateb i’r gwahanol ffyrdd yr ymwna cynulleidfaoedd ym maes y celfyddydau gweledol â’r lleoliadau i ddal data’n greadigol i adeiladu perthynas gyda’r cynulleidfaoedd, meincnodi ar draws y sector a darparu cynllun gwydn i benderfyniadau strategol. Esbonia Chris Brown y Cyfarwyddwr:

Mae’r celfyddydau yn rhad ac am ddim wrth y fynedfa ac rydym yn ymroddedig i leihau’r rhwystrau sy’n bod rhag ymgysylltu â’r celfyddydau gweledol ym mhob ffordd bosibl. Ond mae honno’n broblem fawr inni. Rydym am fod yn wybodus a chraff am y bobl sy’n dewis ymgysylltu â ni. Gall sefydliadau eraill gasglu data drwy eu trafodion – tocynnau, gwasanaethau neu nwyddau – ond ni allwn gyplysu’r enwau yn ein cronfa ddata â’r bobl a ddaw drwy ein drysau. Ni wyddom faint o gysylltiad sydd rhwng ein hymdrechion cyfathrebol â’r nifer a ddaw atom. Mae arnom angen datrys y broblem honno. 

Yn olaf cydweithia Hijinx, cwmni theatr proffesiynol cynhwysol a sefydliad hyfforddi sy’n cyflwyno gwaith a berfformir gan actorion gydag, a heb, anableddau dysgu, â Proper Design a Dunne a Daisy i archwilio sut i ddefnyddio technoleg ddigidol i olrhain cynnydd a datblygiad ei grŵp o 60 o actorion anabl a hyfforddwyd yn broffesiynol. A sut y gallai greu cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.

Meddai Zoe King, Rheolwr Marchnata:

Ein gweledigaeth yw ei gwneud yn beth cyffredin i gael actorion ag anableddau dysgu ar y llwyfan, y sgrin ac ar y radio. Felly gyda 60 o actorion ag anableddau dysgu hyfforddedig ledled Cymru, a rhagor sy’n dod drwy ein Hacademïau, mae ein her yn driphlyg. Sut y rhannwn wybodaeth a chyfathrebu ein newyddion yn fewnol ymhlith grŵp o actorion, gofalwyr a thiwtoriaid? Sut yr olrheiniwn eu cynnydd ac ar yr un llaw yn diogelu eu preifatrwydd? A sut y dangoswn eu llwyddiant a dathlu eu storïau’n gyhoeddus? Archwilia’n gwaith gyda’r Gronfa sut y gall llwyfan digidol gynnig ateb i’r her uchod ac annog a grymuso ein perfformwyr a meithrin eu gyrfa. 

Gellwch glywed y diweddaraf am y prosiectau hyn drwy ein gwefan newydd a lansir yn yr wythnosau nesaf. Cynhaliwn hefyd gyfres o ddigwyddiadau a chyfleoedd eraill i bobl ymwneud â’n gwaith, felly moelwch eich clustiau am y datblygiadau diweddaraf.

Postiwyd yn: Blog, Dan sylw Awdur: Rob Ashelford

arts_wales_

  • 📲Briefing session for schools: 5 March! ✨Cynefin: A new and exciting opportunity for schools, which will empower a… https://t.co/oAQEpqw0Fo07:23 AM Feb 26
  • Great resources here! Thank you for sharing @theatriolo ✨ https://t.co/SlepRQfqIe10:56 AM Feb 24
  • 💬 Connect & Flourish Fund - The How and Why of Collaboration Agreements Join the virtual conversations and drop-in… https://t.co/eM6Z78ljsr05:30 AM Feb 24

Stwff i’ch mewnflwch

Rydym yn defnyddio cwcis / We use cookies: Cael gwybod mwy / Find out more