
A allwn ddatblygu system gyfathrebu ddigidol ddiogel a hawdd ei defnyddio i hwyluso gwell cyfathrebu mewnol ac allanol, gan wneud ein sefydliad yn fwy effeithlon ac effeithiol?
Rydym wedi dechrau adeiladu system gyfathrebu ddigidol integredig i fynd i’r afael â phob un o’r heriau strategol hyn:
Sut rydym yn rhannu gwybodaeth yn fewnol ymysg ein gr?p o actorion, gofalwyr a thiwtoriaid ledled Cymru?
Sut rydym yn dilyn trywydd cynnydd actorion tra’n diogelu eu preifatrwydd?
A sut rydym yn arddangos eu doniau a’u llwyddiannau yn gyhoeddus?

Drwy’r broses hon o ymchwil a datblygu, rydym wedi datblygu system gyfathrebu fewnol ddiogel a gwefan gastio gyhoeddus. Mae pob elfen o’r system hon yn seiliedig ar feddalwedd cost isel neu ddi-gost a addaswyd at ein hanghenion.
Mynegodd rhai o’n rhanddeiliaid yn y sector ddiddordeb yn y system a ddatblygwyd gennym i fonitro https://www.integratedway.com/buy-xanax/ datblygiad personol a phroffesiynol ein hactorion sydd ag anableddau dysgu. Credwn fod hyn yn cynnig cyfle i ledaenu budd cyhoeddus y gwaith hwn ymhellach ac o bosib datblygu ffrydiau incwm newydd.
Rydym wedi nodi dwy flaenoriaeth mewn perthynas â datblygu ein system gyfathrebu allanol: y cynnig hyfforddiant byw, a’r wefan gastio ei hun. I sefydlu ein cynnig hyfforddiant byw, byddwn yn awr yn ceisio datblygu perthynas newydd gyda darparwyr hyfforddiant meddygol a gofal iechyd ledled Cymru. Rydym wedi nodi rhestr o dargedau ac rydym yn cyfathrebu â’n cysylltiadau presennol i weld sut gall ein gwefan gastio ein helpu i werthu’r pecyn sydd gennym i’w gynnig. Mewn perthynas â’r wefan gastio ei hun, mae angen ei datblygu ymhellach yn dechnegol er mwyn ei chwblhau. Pan fydd y wefan wedi’i sefydlu’n llwyr, gallwn brofi’r wefan ymysg cyfarwyddwyr castio a chynhyrchwyr.