
A all sefydliadau’r celfyddydau gweledol ddefnyddio offer digidol yn effeithiol i gasglu data gan gynulleidfaoedd mewn digwyddiadau di-docyn, gan hefyd gyfoethogi profiad y gynulleidfa?
Ar gyfer y broses ymchwil a datblygu hon, rydym wedi creu ein teclyn ein hunain i archwilio ymatebion y gynulleidfa i gelf. Yn ei ffurf bresennol, y mae’n wefan ryngweithiol, gyda gwybodaeth am y gwaith celf sydd wedi’i arddangos, a chydag opsiynau i ganiatáu i’r defnyddiwr gael mynediad at gynnwys gwahanol neu fynegi eu barn am yr hyn a welant. Teitl dros dro y teclyn yw Teclyn Ymateb y Gynulleidfa (Audience Response Tool, neu ‘ART’).

Rydym wedi casglu adborth gwerthfawr gan ein cynulleidfa ynglŷn â sut gallwn gynnig brofiad personol iddynt o’r oriel tra’n dysgu mwy am sut maent yn ymgysylltu â’r gwaith a gyflwynwn. Rydym wedi defnyddio technoleg ddigidol i ddangos model o sut gall hyn weithio mewn amrywiaeth o leoliadau’r celfyddydau gweledol.
Er bod y teclyn yn dal i fod yn waith sydd ar y gweill, rydym eisoes yn dechrau meddwl sut gall y ffordd y mae ein cynulleidfa yn ymwneud â’r teclyn fod yn ffynhonnell bwysig o ddata a all ein helpu i wneud ein rhaglenni a’n curadu yn fwy perthnasol i bobl.
Daethom i sylweddoli hefyd y gallai ein teclyn fod yn ddefnyddiol i leoliadau â thocyn yn ogystal â rhai di-docyn gan mai’r potensial yw nid yn unig casglu manylion cyswllt a rhestr o’r digwyddiadau y bu ein hymwelwyr iddynt, ond archwilio eu hymateb i’r gwaith a welant, yn y fan a’r lle. Drwy ddatblygu’r teclyn i’r dyfodol, gallwn ddechrau archwilio’r amrywiaeth ddiben-draw o ffyrdd y gallwn ddeall sut mae ein cynulleidfa yn ymwneud â’n gwaith.