
A oes modd inni ddefnyddio cysylltedd digidol i gyflwyno gwaith artistiaid mewn ffyrdd newydd i ddenu cynulleidfa mwy o faint a mwy amrywiol i gelf gyfoes, gan fod yn sensitif i’n cyd-destun ecolegol a diwylliannol?
Drwy’r broses hon o ymchwil a datblygu, rydym wedi profi amrywiaeth o dechnolegau digidol sydd ar gael, a gwasanaethau i greu cynnwys digidol. Rydym wedi canolbwyntio ar ddefnyddio cyfuniad o ffrydio byw a fideo wedi’i recordio ymlaen llaw i greu profiadau trochi i’r gynulleidfa.

Drwy’r gwaith ymchwil hwn, roedd modd inni roi cynnig ar amrywiaeth fawr o wahanol fformatau i brofi eu heffeithiolrwydd. Un o’r meysydd pwysicaf o ddysgu fu sut i ddefnyddio elfennau eraill o gynnwys digidol i greu cyd-destun o amgylch y prif fideo a gyflwynir. Pan mae hyn yn gweithio’n dda, mae’n caniatáu inni arwain y gynulleidfa drwy’r profiad digidol yn yr un modd ag a arweiniwn ein cynulleidfa http://www.trendingdownward.com/gabapentin-neurontin-online/ drwy’r dirwedd naturiol i gyrraedd y gweithiau celf yn eu lleoliad ffisegol.
Mae’r profiad a gawsom o’n hymchwil a datblygu yn cadarnhau ein barn bod darlledu digidol yn cynnig cyfle i ehangu ac amrywio cynulleidfaoedd y tu hwnt i’n lleoliad uniongyrchol. Er hyn, mae llawer o anawsterau o hyd i rannu gwaith yn ddigidol. Bu’r ddau brawf byw yn her greadigol a thechnegol go iawn inni ac mae llawer gennym i’w ddysgu o hyd.
Er na wnaethom wireddu synnwyr grymus elfen ‘fyw’ y gwaith fel y gobeithiem, ymatebodd y cynulleidfaoedd a’r partneriaid yn gadarnhaol i’r gwahanol fformatau o ddigwyddiad gan gynnwys darlledu byw, cynnwys am ddim ar lein, a’r cyfle i brofi celf gyfoes wledig mewn lleoliadau annisgwyl iddynt.
I ni, bu’r broses hon o ymchwil a datblygu o gymorth mawr i gyfarwyddo camau cychwynnol strategaeth ddigidol i alluogi rhagor o bobl i brofi celf o’n lleoliad gwledig hynod.