
A all porth ar-lein i rannu data ar e aith gymdeithasol helpu sefydliadau’r celfyddydau cymunedol i fod yn fwy e eithiol a mwy cyllidadwy?
Mae dau rym yn gyrru celfyddydau cymunedol. Y cyntaf yw cynnig gweithgarwch cyfranogol artistig o ansawdd uchel. Yr ail yw i’r pro ad hwnnw fod yn drawsnewidiol i fywydau’r bobl a’r cymunedau sy’n cymryd rhan, yn aml drwy roi llais i bobl, neu ordd i fynegi eu hunain yn wyneb anfantais.
Ond nid hawdd bob amser yw mesur e aith drawsnewidiol ar unigolion – weithiau, bydd yr e aith mwyaf pwerus yn ‘feddal’ neu’n anfesuradwy, gallai’r buddion gael eu gwireddu amser hir ar ôl i ymyriad ddigwydd, neu efallai nad yw’n bosib gwahanu dylanwad actorau eraill a arweiniodd at y newid hwnnw.
Ond yn ein hamgylchedd cyllido heriol, pwysicach nag erioed yw bod modd inni ddangos e aith ein gwaith mewn ordd gadarn. Mae’r adnoddau sydd ar gael i gelfyddydau cymunedol
o ynonellau traddodiadol yn lleihau mewn termau absoliwt,
ac mae nifer gynyddol o sefydliadau celfyddydol yn cy awni ymarfer sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol, gan olygu bod mwy o gystadleuaeth am yr hyn sydd ar gael.
Daethom i’r farn bod bellach angen porth i ddwyn ynghyd y data a gai ei gipio ar e aith gweithgarwch celfyddydau cymunedol yng Nghymru. Credwn fod hwn yn gam angenrheidiol ar y daith tuag at godi safonau tystiolaeth yn y sector. Drwy’r broses hon o ymchwil a datblygu, dechreuom sefydlu sut beth allai hyn fod a beth yw agwedd y sector tuag at y syniad.
Ein teitl gweithio i’r prosiect hwn yw E aith Celfyddydau Cymru.
Rydym wedi creu prototeip a’i bro gyda sefydliadau’r celfyddydau cymunedol. Rydym bellach yn y broses o gynyddu faint o ddata sydd ar gael ar y porth fel bod modd inni ddechrau pro ’r syniad gyda chyllidwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn denu eu cefnogaeth. Hyd yn oed yn yr amser byr ers inni gychwyn ar y prosiect hwn, rydym wedi hwyluso llawer o sgyrsiau ynglŷn â sut y down â’r dystiolaeth angenrheidiol at ei gilydd i ddangos yn glir y grym unigryw sydd gan gelfyddydau cymunedol i drawsnewid bywydau.